Monday 10 December 2012

Traethawd i'w gwblhau erbyn y 17eg o Ragfyr:


Archwiliwch y pwysau ar amgylcheddau Tundra sy'n cael eu hachosi gan weithgraedd dynol (25).


Friday 7 December 2012

Bygythiadau i'r tundra

Cafwyd seminar grwp heddiw i drafod effeithiau mwyngloddio, cynhesu byd-eang a thwristiaeth ar fiom y tundra. Roedd y dealltwriaeth o'r effeithiau'n dda, ond roedd y drafodaeth yn brin iawn o enghreifftiau penodol. Felly,






Gwaith Cartref erbyn Dydd Llun:

1. Dewch o hyd i enghreifftiau penodol o waith mwyngloddio a llygredd yn y tundra.

2. Gwyliwch y rhaglen diweddarach ' Supersized Earth' ar yr iPlayer- cefndir da i'r uned, yn enwedig biom y diffeithdir.

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b01p9f4n/Supersized_Earth_Food_Fire_and_Water/

Monday 26 November 2012

Pridd y Tundra

Dyma ddiagram sy'n dangos nodweddion pridd 'glei' y Tundra. Fedrwch chi esbonio'r diagram gan ddefnyddio terminoleg cywir? 


Nodweddion y Tundra

Yn ystod y wers ddiwethaf, gwnaethon ni ymgyfarwyddo gyda nodweddion biom y Tundra. Cawsoch chi nifer o ddatganiadau ac roedd angen eu grwpio ac yna dwyn i'r cof. Dyma nhw:

Mae’r twndra’n cynnwys rhannau gogleddol Alaska, Canada a Rwsia a Greenland i gyd.
Caiff y pridd ei rhewi’n gyfan gwbl heblaw am yr haen uchaf (2-3cm) yn yr haf.
Yn yr haf mae cyfnodau estynedig o heulwen.
Mae ongl yr haul yn isel felly nid yw’r tymheredd yn codi uwchben y rhewbwynt yn aml.
Mae’r gaeafau yn hir, tywyll ac eithafol. 
Mae’r dyodiad yn cwympo fel eira ac mae’n ysgafn iawn, gyda llai na 110mm yn gyffredin. 
Mae cynnyrch organig yn isel iawn – CCN o 104g/m2/ blwyddyn. 
Mae tundra’n golygu Tir heb goed yn iaith y Ffindir.
Rhaid i’r planhigion goddef eithafion oerfel a diffyg dwr.
Dyw dwr ddim ar gael i blanhigion gan caiff ei storio fel  ia neu eira. 
Mae llai o rywogaethau’n byw yn y tundra o’i gymharu a phob biom arall.
Mae planhigion yn tueddu i dyfu’n araf iawn ac yn fach er mwyn osgoi’r gwynt.
Mae’r mwyafrif o blanhigion yn cwblhau eu cylch bywyd o fewn 50- 60 dydd.
Y planhigion dominyddol yw mwswgl, lichen  a glaswellt.
Mae gan y planhigion dail bach i osgoi colledion anwedd-dransbiradaeth a gwreiddiau byr i osgoi’r permaffrost (rhew parhaol).
Mae’r mwyafrif o’r twndra o dan dd?r yn yr haf gan fod y permaffrost yn atal ymdreiddiad a does dim llawer o anweddiad.
Mae’r planhigion effemeral yn creu matiau blodeuol  lliwgar sy’n cynnwys pabi’r Arctig  ac anemones. 
Dydy’r llystyfiant ddim yn dadelfenni’n gyflym yn yr oerfel ac mae mawn (peat) yn ffurfio
Mae diffyg planhigion sy’n gallu cynhyrchu Nitrogen yn effeithio ar y ffrwythlondeb. 
Mae ffotosynthesis yn cael ei rhwystro gan y diffyg heulwen a dwr bron trwy’r flwyddyn.
Mae anifeiliaid llysieuol fel y ceirw a’r musk ox (ox-ych) yn gallu goroesi gan fod cynnwys y siwgr yn y mwsgl yn uwch. 
Rhaid i anifeiliaid mudo yn y gaeaf i ddod o hyd i lystyfiant sydd heb orchudd o eira. 
Y prif ysglyfaethwyr   yw’r blaidd, cadn’r Arctig a’r tylluan. 
Mae’r twndra’n ecosystem  fregus iawn sydd yn adfer yn araf yn dilyn ymyrraeth dynol.
Does dim llawer sbwriel organig a does dim llawer o actifedd bitog yn y pridd gan fod y tywydd mor oer sy’n golygu bod yr haenau uchaf yn asidig.
Mae’r rhew parhaol tua 50cm i lawr yn golygu bod y priddoedd yn ddirlawn (saturated) ac felly dyw ocsideiddio ddim yn digwydd. Y canlyniad yw priddoedd sydd ag edrychiad glas neu lwyd. 
Yr enw ar briddoedd y tundra yw priddoedd gley. 
Mae’r  pridd yn cynnwys darnau mawr, onglog sydd wedi torri trwy weithred rhewi-dadmer.

Monday 12 November 2012

Cwestiwn i'w hateb

Erbyn y 26ain o Dachwedd:

Trafodwch y strategaethau sy’n cael eu defnyddio gan grwpiau gwahanol ar gyfer rheoli amgylcheddau diffeithdir.   (25)
Unrhyw gyfrwng (fideo, podcast, traethawd, Cyflwyniad PowerPoint, Prezi)...... ond rhaid i'r adnodd fod yn ddefnyddiol i chi pan yn adolygu.
Cewch eich hasesu yn erbyn meini prawf traethawd. Joiwch!

Friday 9 November 2012

Srategaethau i amddiffyn y Diffeithdir

Mae'r diffeithdir yn wynebu sawl bygythiad, nid lleiaf y broses o ddiffeithdirio sy'n effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl. Sut mae lleihau ein heffaith ni ar yr amgylchedd fregus yma?

Gwyliwch y fideo isod a chwblhewch y canlynol cyn y 12fed!
  • Gwnewch nodiadau manwl

  • Dilynwch y cysylltiadau sydd yn y fideo a darllenwch y wybodaeth. Arbedwch y tudalennau fel ffefrynau yn  eich porwr.




Tuesday 23 October 2012

Y Kalahari a'r Mor Aral

Gwanethon ni gwblhau ein gwerthusiad o effaith pobl ar amgylchedd y diffeithdir drwy edrych ar effaith dyfrhau'r tir (i greu cotwm) ar y mor Aral. Gweler y cyswllt yn y post blaenorol neu'ch nodiadau.


"When the former Soviet Union diverted the Ama Dariya and the Syrdariya - the rivers which fed the Aral Sea - to grow cotton in the desert, they created an ecological and human disaster".

Yna, edrychon ni ar effaith twristiaid ar ddiwylliant pobl y Kalahrai:
"Numerous Basarwa mentioned that they resent the fact that tourists do not greet them or tell them why they have come to their villages. A common complaint is that tourists do not treat Basarwa as they would other people. "Why is it," they ask, "that we are requested to take off our clothes so people can take pictures of us?" Basarwa are frequently taken aback by the ostentatious display of wealth on the part of some tourists, who drive up in Land Rovers or Toyota Land Cruisers and walk around in expensive safari clothing, draped with cameras and video recorders".


(Gweler y cyswllt neu'r nodidadau sydd gennych))
Tasg: 1. Cwblhau'r gwaith darllen ar y Kalahari erbyn Dydd Gwener
Tasg 2 . Ysgrifennu traethawd ar effaith pobl ar y diffeithdir erbyn y Dydd Gwener cyntaf ar ol hanner tymor-

Archwiliwch y pwysau ar amgylcheddau diffeithdir sy'n ganlyniad gweithgareddau dynol. (25)


Monday 15 October 2012

Bygythiad i'r Diffeithdir- Rhan 2

Gwelodd y dosbarth y pedwerydd fideo yn y gyfres (gweler isod) a gwnaethon ni nodiadau manwl ar y fideo.

Yn ogystal, rhoddwyd gwaith ymchwil i'w gyflawni erbyn Dydd Gwener-

1. Ffeil-o-ffeithiau ar effaith cloddio uranium yn Niger

2. Adroddiad (1-2 dudalen) ar effaith amgylcheddol y rhyfel gwlff cyntaf

Mae cysylltiadau i wefannau a fideos addas ar y fideo yn y blog diwethaf (Bygythiad i'r diffeithdir- Rhan1.



Friday 12 October 2012

Bygythiad i'r diffeithdir

Mae gwe' fwyd y diffeithdir yn syml iawn, gydag ychydig o gysylltiadau rhwng y cynhyrchwyr, llysysyddion a chigysyddion. Golyga hyn fod y biom cyfan yn sensitif i newidiadau hinsoddol ac ymyrraeth dynol. Mae'r fideo yma'n cyflwyno rhai o'r bygythiadau sy'n wynebu'r diffeithdir. Gwnewch nodiadau manwl ar y fideo a dilynwch y cysylltiadau i ymchwilio ymhellach.







Monday 24 September 2012

Amgylchedd y Diffeithdir- Rhan 2

Cyn darllen ymhellach- Ydych chi wedi cwblhau'r gweithgareddau ar y ddau bost blaenorol (gan ddechrau gyda'r llun o'r dyn yn y gadair olwyn)? Rhaid cwblhau'r ymarferion yna cyntaf.

Dyma'r ail fideo sy'n edrych ar nodweddion y diffeithdir yma.

Unwaith eto, gwnewch nodiadau manwl ar y fideo yn eich llyfrau nodiadau. Cofiwch i roi geirfa newydd (a'r ystyr) yng nghefn eich llyfrau.

Y dasg ychwanegol tro hyn yw i greu cyfres o gwestiynau 'gwylio a deall' sy'n mynd i brofi dealltwriaeth aelodau eraill y dosbarth. Felly, unwaith rydych chi wedi gwneud eich nodiadau, creuwch daflen waith gyda chymysgedd o gwestiynau byr a chwestiynau mwy estynedig. Rhaid i o leiaf un o'r cwestiynau gofyn am ddiagram sydd wedi ei labeli. Teipiwch y cwestiynau ar brosesydd geiriau a dewch a'r copi i mewn i'r wers.





Tuesday 11 September 2012

Amgylchedd y Diffeithdir

Shwmai? Wel, os gwnaethoch chi ddilyn cyfarwyddiadau'r blog diwethaf, bydd gennych chi ddealltwriaeth da o ystyr ecosystem, biomau a'r termau cysylltiedig. Mae'n amser nawr i droi ein sylw at ein hamgylchedd eithafol cyntaf, sef y diffeithdir. Gwyliwch y fideo yma a gwnewch nodiadau manwl. Dysgwch y termau, gan gofio i'w rhoi yng nghefn eich llyfrau. Bydd angen llygaid barcud i weld fy ymddangosiad ar gefn camel rhywle yn ystod y fideo ;0)




Gwela i chi Ddydd Llun!


Saturday 8 September 2012

Cyflwyniad i G3 a- Amgylcheddau Eithafol

Yn gyntaf, croeso nol i'r ysgol. Mae'n flin gen i am fod yn absennol- ges i lawdriniaeth ar fy mhenglin yn ystod wythnos olaf y gwyliau. Mae popeth yn mynd yn iawn ac rwy'n digwyl bod bod yn yr ysgol erbyn yr 17eg o Fedi. 

 Doeddwn i ddim eisiau i chi fod heb waith i wneud felly rwy'n mynd i ddefnyddio'r blog yma i drosglwyddo gwybodaeth i chi.

I ddechrau, mae angen i chi ofyn yn y swyddfa am lyfr A4 llinellau. Byddwch yn defnyddio'r llyfr yma i wneud nodiadau, drafftio traethodau ac ati. Defnyddiwch gefn y llyfr i greu rhestr geirfa. Gallwch ddefnyddio'ch Autocollages gwych o dymor diwethaf fel clawr i'r llyfr! Cadwch y dudalen gyntaf yn wag (mae gen i rywbeth i chi ludo mewn pan rwy'n dychwelyd). Byddaf yn cymryd y llyfrau yma mewn o bryd i'w gilydd felly cadwch bethau'n daclus!

Os gofiwch chi nol i dymor diwethaf, gwnaethoch chi'r penderfyniad i astudio'r uned 'Amgylcheddau Eithafol' ar gyfer y modiwl G3 (y cwestiynau traethawd). Er mwyn cychwyn yr uned, mae angen deall beth yw ecosystemau a biomau. Felly, ewch ar y gwefan yma:



Gwnewch nodiadau manwl yn eich llyfrau ar yr unedau 'Biomes', 'Savannah grassland', 'Desert', 'Tundra', 'human uses of the savannah' a 'human uses of the desert'. Gwnewch ymdrech arbennig i gyfieithu termau'n ofalus ac ysgrifennu ystyr y termau yn y cefn. Mae termiadur ar silff fy 'stafell, os oes angen. Disgwylir i chi gael marciau llawn y profion ar y gwefan!

Wedyn, gwyliwch y fideo yma :




Gweithiwch mewn parau i ysgrifennu fersiwn Cymraeg o'r sylwebaeth. Rhowch gopi o'r sgript yn eich llyfrau ac yna ceisiwch recordio sylwebaeth eich hunan! Gallwch ddefnyddio rhaglen 'Audacity' sydd ar y glinfyrddau neu unrhyw dull recordio arall!

Yna, ewch ati i gwblhau'r uned Bitesize yma:

http://www.bbc.co.uk/bitesize/tgau/bioleg/dibyniaeth/dibyniaeth/revision/3/

Pob lwc!

Bydd mwy'n dilyn Dydd Mercher, gan gynnwys Mr Rogers ar gefn camel..... watch this space!

Monday 16 January 2012

G3 B Adran Ymchwil

Rydych chi newydd gwblhau dau draethawd mewn awr a hanner ac yna, mae'r arholwr yn dosbarthu arholiad arall i chi! G3, Adran B.

Peidiwch a phoeni, mae'r cwestiynau yma wedi'u seilio ar ein gwaith maes i Gasnewydd ac yn gallu bod yn ffordd rhwydd i ennill marciau. Edrychwch am y thema amddifadedd mewn ardaloedd trefol (B.2).



Hyd y papur yw 3/4 awr yn unig a fe rhennir mewn i ddau gwestiwn a a b.

e.e.



2. (a) Amlinellwch sut y gellir casglu gwybodaeth mewn ymchwiliad sy’n cymharu patrymau amddifadedd mewn ardal drefol. [10]

(b) Rhowch grynodeb o brif gasgliadau eich ymchwil personol i amddifadedd mewn
ardal drefol a thrafodwch sut y mae’r casgliadau hyn yn cefnogi eich nodau
gwreiddiol. [15]



Mae'r cwestiwn cyntaf (a) yn gofyn i chi sut fyddech chi'n... cynllunio ymholiad, casglu gwybodaeth, arddangos eich gwybodaeth, dadansoddi eich data, ffurfio casgliadau neu werthuso ymchwiliad mewn i ardal drefol.

Mae'r ail gwestiwn (b) yn gofyn i chi esbonio beth gwnaethoch chi pan yn cynllunio, casglu gwybodaeth ayyb..... yn eich ymchwil personol.

Sylwch fod 5 marc ychwanegol am adran b.

Felly, ar gyfer adran a fedwrch chi ddefnyddio geiriau fel... Gallwch, fedrwch, mae'n bosibl, bydd hyn yn arfer da oherwydd, bydd angen, er mwyn cael sampl teg.... Meddyliwch am sut a pham gwnaethon ni gasglu gwybodaeth a'u harddangos ar gyfer Casnewydd a'r dulliau sy'n cael eu disgrifio yn y pecyn sgiliau.

Dechreuwch bob gwestiwn adran b gyda theitl yr ymholiad:

'Ar gyfer fy ymchwil unigol gosodais yr ymholiad canlynol: A yw patrymau amddifadedd cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol yn amrywio ar draws wardiau Casnewydd.   

Yna, mae'n fater o ddefnyddio gwybodaeth o'r dudalen berthnasol yn eich pecyn Casnewydd (yr un gyda'r bont drawsgludo) er mwyn ateb y cwestiwn.

Felly, mae angen dysgu'r pecyn yna'n drylwyr a deall beth yw arfer daearyddol da pan yn ymchwilio mewn i destun.

Pob lwc!




http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/africa/7959444.stm


G3.B.2

Amddifadedd – Pwnc trafod: Amddifadedd mewn ardaloedd trefol

Thursday 12 January 2012

Cwestiynau G3

Yn Adran A mae angen ateb 2 gwestiwn traethawd, un o thema 3 (Peryglon hinsoddol) a'r llall o Thema 4 (Datbygiad).

Hyd Adran A yw 1 a hanner awr, sy'n golygu bod gennych chi 3/4 i dreulio ar bob traethawd.

Mae pob cwestiwn traethawd yn cael ei farcio allan o 25, gan ddefnyddio'r cynllun yma.

Mae'r dewis o gwetiynau arholiad ar gyfer thema 3- Peryglon hinsoddol yn debygol o ddilyn y themau canlynol:

  1. Disgrifio/ Esbonio patrymau hinsoddol sy'n gysylltiedig gyda hinsoddau trofannol (Gwasgedd uchel+CCRhD) 
  2. Ffurfiant a nodweddion gwasgedd isel.
  3. Effeithiau gwasgedd isel neu uchel
  4. Strategaethau i leihau effeithiau peryglon gwasgedd isel neu uchel. 
Disgwylir i chi ddefnyddio diagaramau addas, gwybodaeth ffeithiol ac astudiaethau achos trwy gydol y traethawd. 

Mae'r ffocws ar ardal Is-Sahara Affrica- y SAHEL pan yn trafod gwasageddau uchel. Bydd disgwyl i chi nodi fod lefelau datblygiad y gwledydd yn yr ardal hon yn cael effaith uniongyrchol ar effaith y perygl ar y bobl.

Yn yr un modd, mae'n bosibl gymharu effeithiau byr dymor a hir dymor corwyntoedd ar wledydd LlEDd a MEDd trwy gyfeirio at Mitch a Katrina.

Cofiwch fod ddim angen ysgrifennu 3/4 dudalen yn cyflwyno'r traethawd- Cyflwyniad cryno a mewn a chi!
Mae'n bwysig i gynnwys diweddglo cryno sy'n adlewyrchu geirio'r cwestiwn ac sy'n crynhoi eich prif bwyntiau.

Mwy am Adran B yn y post nesaf.....

Tuesday 10 January 2012

Sgerbwd Traethawd- Ffurfiant a nodweddion ardaloedd o wasgedd isel

Systemau gwasgedd isel- Corwyntoedd
 Sut fyddech chi’n addasu'r sgerbwd hwn ar gyfer traethawd peryglon gwasgedd isel, neu strategaethau i leihau effeithiau gwasgedd isel? Cofiwch fod angen cyfeirio at astudiaethau achos!
Mae ardaloedd o wasgedd isel (ac uchel) yn ran o gylchrediad atmosfferig byd eang. Yr injan sy’n gyrru’r cylchrediad atmosfferig  yma yw gwarged egni’r haul ger y cyhydedd. Mae’r gwarged yma’n golygu crynhoad o wres ar  y cyhydedd ac mae ymgodiad atmosfferig a gwasgedd isel yn ganlyniad. Wrth i’r aer godi’n gyflym, mae ‘n oeri’n  ac yn cyddwyso, gan ffurfio cymylau cumulonimbus a glawiad trofannol trwm. Yn hemisffer y Gogledd, mae’r broses yma’n gallu datblygu ymhellach i ffurfio corwyntoedd, sef ardaloedd o wasgedd isel arddwys.

 Er mwyn i gorwynt ffurfio mae angen arwyneb forol fawr (mae nifer o gorwyntoedd yn tarddu dros Gefnfor Iwerydd, ger arfordir Gorllewinol Affrica) i ddarparu digonedd o anwedd dwr.   Gweler tymereddau dros 27 gradd Selsiws i yrru anweddiad cyflym- golyga hyn bod yna ‘dymor’  corwyntoedd pryd mae’r cefnforoedd yn digon cynnes i’w ffurfio; fel arfer ym mis Gorffennaf, Medi a Hydref. Yn ogystal, mae corwyntoedd yn ffurfio ychydig graddau i’r Gogledd neu’r De o’r cyhydedd er mwyn i grym coriolis droelli’r storm. Mae troad gwrthgloc y Ddaear yn golygu bod stormydd  yn teithio tuag at y Gorllewin , gan gasglu mwy o anwedd ddŵr cyn casglu digon o nerth i’w hystyried yn gorwynt.

Gweler y nodweddion canlynol yn perthyn i gorwynt: Gwyntoedd cyson dros 75 mya; diamedr o tua 500km; cymylau cumulonimbus, mellt a tharanau; glawiad trwm iawn a chesair; amlygir canol y corwynt gan ardal ddi-gwmwl a gwasgedd isel arddwys Pan mae corwyntoedd yn cyrraedd yr arfordir, mae ymchwydd storm yn gallu achosi llifogydd.
 Pan mae corwyntoedd yn cyrraedd gwlff Mexico, mae’r cyfradd anweddiad yn cynyddu gan fod y gwlff mor bas. O ganlyniad, mae’r corwyntoedd yn cryfhau. Mae rhai, fel corwynt Katrina yn 2005 yn gallu cyrraedd gradd 5 (Graddfa Raffir-Simpson). Gweler nifer o beryglon sy'n gysylltiedig a chorwynt
Yr effeithiau’n amrywio, yn ddibynnol ar lefelau paratoi a lefelau datblygiad y gwledydd sy’n dioddef.
Modd gwneud cymhariaeth cryno o Katrina a Chorwynt Mitch.
Fel yn achos corwynt Katrina, pan mae’r corwyntoedd yn teithio dros y tir, maent yn colli egni gan does dim fynhonell anwedd dwr i’w cynnal. O ganlyniad, mae corwyntoedd yn dirywio i stormydd.

i gloi:
Felly, mae corwyntoedd yn enghreifftiau o systemau gwasgedd isel arddwys iawn sy'n ffurfio o ganlyniad i warged egni'r haul ar y cyhydedd. Mae ganddynt nifer o nodweddion sy'n cynrychioli peryglon i bobl sy'n byw ger gwlff Mexico ac arfordir dwyreinol UDA. Mae graddfa'r perygl yn dibynnu ar nerth y corwynt, lefelau paratoi a lefelau datblygiad y wlad.



Monday 9 January 2012

Sgerbwd traethawd- effeithiau peryglon gwasgedd uchel


Gwasgedd uchel- Gogledd Affrica.

Beth yw eich barn ar y cynllun yma? Sut fyddech chi'n ateb cwestiwn ar ffurfiant gwasgedd uchel neu strategaethau i leihau effeithiau'r peryglon cysylltiedig? 

Effeithiau peryglon gwasgedd uchel


 Cofiwch fod angen manylion penodol o astudiaethau achos- ffeithiau ac ati.

Paragraff agoriadol:

Diffinio gwasgedd uchel a'i leoli- angen disgrifiad cryno o ffurfiant e.e. aer yn disgyn fel rhan o gylch Hadley tua 20-30 gradd i’r Gogledd o’r cyhydedd.... Adnabyddir gan dymereddau uchel iawn a dim glawiad trwy gydol y flwyddyn. Y gwasgedd uchel yma sy'n gyfrifol am ffurfio diffeithdir y Sahara.  


Diagram syml yn dangos cylch Hadley

Mae gan argae Aswan (Yr Aifft) dymheredd cymedrig dros 40 gradd selsiws a ddim glaw wedi’u recordio o flwyddyn i flwyddyn.  Gan fod y patrwm yma’n barhaol, nid yw’n cynrychioli perygl- disgwylir y diffyg glawiad ac felly mae’r ecosystemau a gweithred dynol wedi’u haddasu i’r amodau. Ar y llaw arall, mae ardal is- Sahara Affrica’n dioddef yr un sychder, gan eithrio un tymor byr o lawiad arddwys sy’n gysylltiedig gyda symudiad y CCRhD i’r Gogledd. Mae’r glawiad yma’n ddigonol i gynnal poblogaeth sylweddol mewn blwyddyn arferol ond weithiau nid yw’r gwasgedd uchel yn caniatau i’r CCRhD fudo i’r Gogledd i’r un raddau ac felly mae ardaloedd yn dioddef diffyg glaw. Mae hyn yn gallu arwain at beryglon, sychder, diffeithdiro a newyn.

 
 Nesaf...
Diffinio sychder- llai na 250mm o law y flwyddyn. Ardal is- Sahara Affrica'n sensitif i ddiffyg dwr gan does dim systemau graddfa fawr i storio dwr mewn cyfnodau o warged e.e. argaeau. Y ffermwyr yn ymgynhaliol.
 Yna...
Diffinio diffeithdiro y tir yn troi’n ddiffeithdir- colli maeth yn y pridd. Egluro effaith dinoethi’r pridd ar gynnyrch amaethyddol. Esbonio bod dibynnaeth ar gnydau gwerth a gorboblogi’n gwaethygu’r broblem. Canran sylweddol o’r boblogaeth yn dibynnu ar ffermio ar gyfer eu bywoliaeth ac felly’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan ddiffeithdiro (ffermio ymgynhaliol). Gorbori (nomadiaid yn cael eu gorfodi i ffermio mewn un ardal yn unig) a llosgi coed ar gyfer tanwydd yn gwaethygu’r sefyllfa. Diffeithdiro’n ganlyniad i sychder…
Ironi glaw trwm yn creu’r perygl o lifogydd (y tir sych yn galed ac yn anathraidd, felly llawer o ddwr ffo) ac yn golchi pridd ffrwythlon i ffwrdd gan gyfrannu at ddiffeithdiro!
 Nawr....
Canlyniad diffyg dwr a diffeithdiro mewn ardal ble dydy’r tir ddim yn gallu cynnal boblogaeth o ffermwyr tlawd mewn modd gynaladwy yw newyn…
Diffinio newyn a disgrifio effeithiau ……
 I orffen...
Paragraff i grynhoi- Gwasgedd uchel yn arwain at sychder. Y sychder yma’n troi’n berygl mewn ardaloedd is-Sahara Affrica os ydy glaw y CCRhD yn methu. Y peryglon yma’n cynnwys diffeithdiro ac mewn sefyllfaoedd eithafol, newyn e.e. Ethiopia a Sudan. Hyn yn gallu arwain at drychinebau.  
Nawr, cynlluniwch sgerbwd traethawd ar strategaethau diffeithdiro.