Cyn darllen ymhellach- Ydych chi wedi cwblhau'r gweithgareddau ar y ddau bost blaenorol (gan ddechrau gyda'r llun o'r dyn yn y gadair olwyn)? Rhaid cwblhau'r ymarferion yna cyntaf.
Dyma'r ail fideo sy'n edrych ar nodweddion y diffeithdir yma.
Unwaith eto, gwnewch nodiadau manwl ar y fideo yn eich llyfrau nodiadau. Cofiwch i roi geirfa newydd (a'r ystyr) yng nghefn eich llyfrau.
Y dasg ychwanegol tro hyn yw i greu cyfres o gwestiynau 'gwylio a deall' sy'n mynd i brofi dealltwriaeth aelodau eraill y dosbarth. Felly, unwaith rydych chi wedi gwneud eich nodiadau, creuwch daflen waith gyda chymysgedd o gwestiynau byr a chwestiynau mwy estynedig. Rhaid i o leiaf un o'r cwestiynau gofyn am ddiagram sydd wedi ei labeli. Teipiwch y cwestiynau ar brosesydd geiriau a dewch a'r copi i mewn i'r wers.
Shwmai? Wel, os gwnaethoch chi ddilyn cyfarwyddiadau'r blog diwethaf, bydd gennych chi ddealltwriaeth da o ystyr ecosystem, biomau a'r termau cysylltiedig. Mae'n amser nawr i droi ein sylw at ein hamgylchedd eithafol cyntaf, sef y diffeithdir. Gwyliwch y fideo yma a gwnewch nodiadau manwl. Dysgwch y termau, gan gofio i'w rhoi yng nghefn eich llyfrau. Bydd angen llygaid barcud i weld fy ymddangosiad ar gefn camel rhywle yn ystod y fideo ;0)
Yn gyntaf, croeso nol i'r ysgol. Mae'n flin gen i am fod yn absennol- ges i lawdriniaeth ar fy mhenglin yn ystod wythnos olaf y gwyliau. Mae popeth yn mynd yn iawn ac rwy'n digwyl bod bod yn yr ysgol erbyn yr 17eg o Fedi.
Doeddwn i ddim eisiau i chi fod heb waith i wneud felly rwy'n mynd i ddefnyddio'r blog yma i drosglwyddo gwybodaeth i chi.
I ddechrau, mae angen i chi ofyn yn y swyddfa am lyfr A4 llinellau. Byddwch yn defnyddio'r llyfr yma i wneud nodiadau, drafftio traethodau ac ati. Defnyddiwch gefn y llyfr i greu rhestr geirfa. Gallwch ddefnyddio'ch Autocollages gwych o dymor diwethaf fel clawr i'r llyfr! Cadwch y dudalen gyntaf yn wag (mae gen i rywbeth i chi ludo mewn pan rwy'n dychwelyd). Byddaf yn cymryd y llyfrau yma mewn o bryd i'w gilydd felly cadwch bethau'n daclus!
Os gofiwch chi nol i dymor diwethaf, gwnaethoch chi'r penderfyniad i astudio'r uned 'Amgylcheddau Eithafol' ar gyfer y modiwl G3 (y cwestiynau traethawd). Er mwyn cychwyn yr uned, mae angen deall beth yw ecosystemau a biomau. Felly, ewch ar y gwefan yma:
Gwnewch nodiadau manwl yn eich llyfrau ar yr unedau 'Biomes', 'Savannah grassland', 'Desert', 'Tundra', 'human uses of the savannah' a 'human uses of the desert'. Gwnewch ymdrech arbennig i gyfieithu termau'n ofalus ac ysgrifennu ystyr y termau yn y cefn. Mae termiadur ar silff fy 'stafell, os oes angen. Disgwylir i chi gael marciau llawn y profion ar y gwefan!
Wedyn, gwyliwch y fideo yma :
Gweithiwch mewn parau i ysgrifennu fersiwn Cymraeg o'r sylwebaeth. Rhowch gopi o'r sgript yn eich llyfrau ac yna ceisiwch recordio sylwebaeth eich hunan! Gallwch ddefnyddio rhaglen 'Audacity' sydd ar y glinfyrddau neu unrhyw dull recordio arall!